GWOBR NEWYDD SY’N YMRODDEDIG I ADRODD STRAEON YMDROCHOL

CYFLWYNIR GAN

Mae Gwobr Annwn yn dathlu rhagoriaeth mewn adrodd straeon ymdrochol. Bob blwyddyn, fe wobrwyir y gwaith gorau sy'n cael ei arwain gan stori sydd wedi’i greu trwy ddefnyddio technoleg greadigol o bob cwr o'r byd.
Mae'n cydnabod darnau o waith sy'n gwneud i gynulleidfaoedd deimlo fel rhan weithredol ac annatod ohono, ac yn defnyddio technolegau sy'n gwella, yn ychwanegu at neu’n trawsnewid ein hymdeimlad o realiti.

Wedi'u henwebu gan gymuned o guraduron a sylwebwyr rhyngwladol, bydd pedwar darn o waith o’r rhestr fer yn cael eu dangos mewn arddangosfa fawr yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, gan roi cyfle i gynulleidfaoedd brofi'r gwaith gorau o bob cwr o'r byd yn y DU. Bydd rheithgor o arbenigwyr ac wynebau cyfarwydd yn dewis yr artist neu'r stiwdio fuddugol, a fydd yn derbyn gwobr o £20,000 a phreswyliad pwrpasol i gefnogi datblygiad gwaith newydd.

Annwn yw’r "Arallfyd" ym mytholeg Gymraeg, teyrnas baralel o freuddwydion a hyfrydwch.
Mae Gwobr Annwn, a sefydlwyd gan Ganolfan Mileniwm Cymru ac a gynhyrchwyd gan Crossover Labs, yn bosibl trwy gefnogaeth hael Peter a Janet Swinburn.

RHESTR HIR

Lisa Jackson
Wilfred Buck's Star Stories
Mae'r gwaith realiti ymestynnol 21 munud o hyd yma sydd wedi'i gynllunio ar gyfer cromenni a phlanetaria yn dod â straeon pedair seren yn fyw wrth iddyn nhw gael eu rhannu gan y seryddwr a’r awdur o dras Ininew (Cri), Wilfred Buck. Mae'r straeon yn amrywio o’r ymarferol i’r barddonol, gan gynnig arweiniad ar lywio, cylchoedd y tymor a byw'n dda ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae WILFRED BUCK'S STAR STORIES yn rhannu safbwynt Cynhenid nad ydyn ni’n ei glywed yn aml ar seryddiaeth a chosmoleg. Mae'r profiad yn cynnwys sinematograffeg awyr nos ymdrochol, CGI cosmig a lluniau macro manwl o feteorynnau, i gyd wedi'u gosod i drac sain sy’n mynd â ni ar daith. Mae'n cyfuno ehangder y bydysawd ag agosatrwydd gwrando ar Hynafgwr doeth, gan ein hatgoffa mai'r sêr yw ein perthnasau hynaf.

Mots
AI & Me: The Confessional and AI Ego
Gosodwaith sy’n archwilio’r rhyngweithio rhwng bodau dynol a deallusrwydd artiffisial yw ‘AI & Me’, gan ganolbwyntio ar farn, canfyddiad, a pha mor agored ydyn ni i ddadansoddiad peiriant. Yn ganolog i'r profiad mae ‘The Confessional’, lle mae cyfranogwyr yn cael barn ddi-flewyn-ar-dafod deallusrwydd artiffisial yn seiliedig ar sut maen nhw’n edrych. Mae 'AI Ego' yn ymestyn hyn, gan arddangos cyfranogwyr mae’r peiriant yn eu "hoffi" mewn sefyllfaoedd swrealaidd sydd wedi’u creu gan ddeallusrwydd artiffisial. Mae'r gosodwaith yn herio ein cysur gyda barn dechnolegol ac yn annog myfyrdod ar oblygiadau cymdeithasol ehangach deallusrwydd artiffisial.

Ondřej Moravec & Victoria Lopukhina
Fragile Home
Beth fyddech chi'n ei wneud petai eich cartref chi’n ymddangos fel petai mewn perygl? Ers dechrau'r rhyfel, mae miliynau o Wcreiniaid wedi wynebu'r cwestiwn yma. Profiad ymdrochol mewn realiti cymysg yw ‘Fragile Home’ sy'n gofyn y cwestiwn yma i bob un ohonon ni. Cyfle i brofi’ch amgylchedd cyfarwydd yn cael ei weddnewid yn gartref teulu o Wcráin. Wrth i chi deithio drwy’ch gofod, mae lleisiau Wcreiniaid yn canu alawon traddodiadol yn gwmni i chi, gan eich tywys at eich atgofion a’ch teimladau chi eich hunan sy’n gysylltiedig â’ch cartref.

Brainz Immersive

Smartphone Orchestra
Ancestors
Tynnwch hunlun er mwyn dod yn hen hen nain neu daid i rywun 200 mlynedd yn y dyfodol. Profiad grŵp rhyngweithiol ac ymdrochol yw Ancestors fydd yn gwneud i chi gysylltu'n ddwfn â'ch cyd-chwaraewyr a gyda chenedlaethau'r dyfodol. Pa fath o fyd fyddwn ni'n ei adael i genedlaethau'r dyfodol? Yn Ancestors, byddwch chi'n cychwyn ar daith ar y cyd gyffrous, chwe chenhedlaeth i'r dyfodol. Mae'r profiad rhyngweithiol yma fydd yn cael ei arwain gan eich ffôn clyfar chi’ch hunan yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i greu cysylltiadau rhyngoch chi ac eraill yn yr ystafell. Gyda'ch gilydd, byddwch yn archwilio heriau'r dyfodol, gan ddarganfod sut mae cydweithio yn allweddol er mwyn siapio byd gwell. Ymunwch â'r antur hwyliog, ymdrochol ac ysgogol yma sy'n dod â phobl at ei gilydd mewn ffordd hollol newydd!

The Smartphone Orchestra

Novaya
Colored / Noire
Cyfle i ymgolli yn Alabama’r pumdegau a chalon y frwydr dros hawliau sifil. Mewn lleoliad sydd wedi'i gynllunio'n arbennig, mae ymwelwyr sydd â phensetiau realiti estynedig a systemau sain dargludiad esgyrn yn cael eu cludo i Alabama’r pumdegau. Mae'r profiad ymdrochol 32 munud yma, sydd wedi ennill gwobrau, yn caniatáu i bobl ail-fyw, fel pe baen nhw yno, weithred ddewr Claudette Colvin—merch 15 oed a wrthododd ildio’i sedd ar fws, a hynny naw mis cyn Rosa Parks.

Libby Heaney
Heartbreak and Magic
Gan dynnu ar alar Libby Heaney yn dilyn marwolaeth sydyn ei chwaer, mae Heartbreak and Magic yn archwilio dimensiynau ychwanegol ffiseg cwantwm fel naratifau amgen ar sut rydyn ni’n meddwl ac yn teimlo am yr hunan, bywyd a marwolaeth. Mae'r gwaith realiti rhithwir yma’n eich gwahodd i gysylltu'n ddwfn â'ch emosiynau drwy archwilio ystyr bodolaeth a cholled annisgwyl. Gallwch ddisgwyl stori aml-haenog, newidiol sy'n dwyn i gof themâu’n ymwneud â chylch bywyd, yr ymylon a'r amlfydysawd. Datblygodd Heaney y gwaith drwy broses iteraidd, arbrofol oedd yn cynnwys ffurfiau corfforol a digidol o greadigrwydd: ymarfer symud, ysgrifennu, tynnu lluniau a phaentio, i god cyfrifiadura cwantwm pwrpasol a gwaith prototeipio injan gemau. Mae Heartbreak and Magic yn dod â'i harbrofion gyda chyfrifiadura cwantwm i realiti rhithwir am y tro cyntaf.

Libby Heaney Studio Ltd
PWYLLGOR Y RHESTR FER
Ana Brzezinska
Curadur Ymdrocho
David Massey
Uwch Gynhyrchydd a Rhaglennydd Technoleg Ymdrochol, Canolfan Mileniwm Cymru
Ellen Kuo
Phennaeth XR Market, Gŵyl NewImages
Mark Atkin
Curadur, Rhyngweithiol yn CPH:DO
Samantha King
Pennaeth Rhaglen, VIVE Art
Tom Millen
Cyfarwyddwr, Crossover Lab

ENWEBWYR
Ana Brzezinska
Curadur Ymdrocho
Asha Easton
Technolegau a Phrofiadau Ymdrochol, Rhwydwaith Technoleg Ymdrochol Innovate UK
Avinash Kumar
Co-founder, Quicksand, Unbox, Eyemyth
Blake Kammerdiener
Uwch Reolwr, Rhaglennu Realiti Ymestynnol, Ffilm a Theledu, SXSW
Carmen Gil Vrolijk
Artist, Athrawes a Churadu
damian kirzner
Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr Artistig
freya salway
Pennaeth Labordy Celfyddydau a Diwylliant Google
Heather Croall AM
Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr Artistig
Ingrid Kopp
Labordai a Phartneriaethau, Electric Sout
Irini Papadimitriou
Curadur a Chyfarwyddwr Creadigol
Jordana Leigh
Is-lywydd, Rhaglennu Artistig, Canolfan Lincoln ar gyfer y Celfyddydau Perfformio
Katsutoshi Machiba
Cynhyrchydd Realiti Ymestynnol
Kent Bye
Cynhyrchydd, Podlediad Voices of VR
Liz Rosenthal
Curadur, gŵyl Ymdrochol Fenis, Biennale di Venezia a chynhyrchydd gweithredol
Luke Kemp
Pennaeth Rhaglen Greadigol – Ymdrochol, Canolfan Barbica
Maitreyi Maheshwari
Pennaeth Rhaglen, FACT
Mathieu Gayet
Cyfarwyddwr Cyhoeddi, XRMust
Myriam Achard
Pennaeth Partneriaethau Cyfryngau Newydd a Chysylltiadau Cyhoeddus, PHI
Naomi Johnson
Cyfarwyddwr Gweithredol, Ffilm a Chyfryngau imagineNATIV
Natasha Greenhalgh
Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Creadigol, Amgueddfa Nxt
Samantha King
Pennaeth Rhaglen, VIVE Art
Sebox HONG
Sylfaenydd, BoxLight Infinity Studi
Shari Frilot
Prif Guradur, Ffin Newydd yn Sundance
Shelley Snyder
Curadur Llundain a Gwledydd Prydain
Tina Lorenz
Arweinydd Adran Ymchwil a Datblygu Artistig, ZKM | Karlsruhe
Ulrich Schrauth
Curadur, Cyfarwyddwr Artistig a Chynghorydd
Cwestiynau Cyffredin
Cwestiynau Cyffredin
Beth yw Gwobr Annwn?
Pwy sefydlodd y Wobr?
Sut mae'r Wobr yn cael ei hariannu?
Beth yw ystyr / o ble mae’r enw'n dod?
Beth yw'r broses ddethol ar gyfer Gwobr Annwn?
Beth yw'r meini prawf i fod yn gymwys?
Beth yw'r broses feirniadu ar gyfer yr enillydd?
Sut mae rhoi cynnig arni?
Pryd bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi?
Beth fydd yr enillydd yn ei gael?
Oes arddangosfa i'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol?

Hawlfraint © 2025 ANNWN | Pawb yn Cadw Eu Hawliau